Skip to main content

Gan yr Athro Ifor Williams.

Journal of the Welsh Bibliographical Society IV, 1932-6, tt.33-9

Yn 1902 ailbrintiwyd Yn y Lhyvyr Hwnn Syr John Price, ac Oll Synnwyr Pen William Salesbury, y cyntaf gan J. H. Davies a'r ail gan J. Gwenogvryn Evans. Yn ôl Mr. Davies, - a dyna farn llyfryddion yn gyffredin - Yn y Lhyvyr Hwnn yw cyntafanedig llyfrau printiedig Cymraeg: efallai wir, meddai Dr. Evans, and os cyntafanedig, nid yw ond y cyntaf o ddau efell. Ymddangosodd y ddau adargraffiad fel efeilliaid yn 1902; a dadleuai ef yn gryf mai gefeilliaid oeddynt yn 1546, pan welsant olau dydd gyntaf, h.y., yn ôl ei ddamcaniaeth ef am amseriad O.S.P.

Ers rhai blynyddoedd bellach yr wyf yn petruso derbyn 1546 fel blwyddyn cyhoeddi Yn y Lhyvyr Hwnn, a synnais lawer tro na fuasai Dr. Evans wedi codi'r un gwrthwynebiad, yn ei awydd i reibio genedigaeth fraint plentyn mabwysedig y Prifathro. Nodaf mor gryno ag y medraf y pwyntiau a wnaeth anghredadun ohonof, i edrych a oes ymwared i gael yn rhywle. Efallai y rhydd rhyw aelod o'r Gymdeithas help i ŵr anghyfarwydd.

Ar yr wyneb-ddalen ceir M.D.XLVI. Onid yw hynny yn derfynol? Nac ydyw, nes cael esboniad ar dri chyfeiriad y tu mewn i'r llyfr ei hun.

Ar ôl y Kalandyr, rhoir Almanak dros ugaint mlynedd. Yn y golofn gyntaf yn yr Almanak rhoir Oedran yr ar gwlydd (!) ney rif y blynyddeu; a'r flwyddyn gyntaf ynddi yw m.d.xlvii. Amlwg yw felly na fwriedid i'r llyfr fod o fudd i neb yn 1546. Yn yr ail golofn nodir mai x. Ebrilh yw Duw Pasc yn y flwyddyn 1547. Yn y golofn nesaf, rhoir ix fel Rhif y prif a elwir y rhif auraid yn y flwyddyn dan sylw: ac yn y nesaf wedyn nodir mai B yw Lhythyryn y Sul. Dyma'r ffeithiau almanacaidd am 1547. Ar waelod y ddalen, ar ôl rhoi ffeithiau cyffelyb am yr ugain mlynedd, 1547-1566, eglurir y modd y mae defnyddio'r Almanak i adnabod y Pasg dros byth. Yna daw'r geiriau:

Val y mae yti y synied y vlwyddyn honn, nyd amgen m.d.xlvii. lhe mae yr B yn lythyren y Sul a ix yn rif y prif.

Disgrifiad cywir yw hyn nid o 1546 ond o 1547. Yna dywedir fod y pasg yn disgyn yn 1547 ar y degfed dydd o Ebrill:

Sef yw hwnnw dyw pasc y vlwyddyn honn.

Ar y tudalen nesaf, ymhelaethir ar flwyddyn yr haul a blwyddyn y lleuad, ac ar y Prif, neu'r Rhif Euraid. Yna ar ben y ddalen nesaf cawn a ganlyn:
 

A ix. ydiw y rhif hwnnw y vlwyddyn honn. Sef yw hynny o oedran yr Arglwydd mil a phympcant a saith a deugain.

Ni wn am neb a geisiodd yn fwy pendant setlo'r flwyddyn na'r gwrda a brintiodd Yn y Lhyvyr Hwnn. Taera drosodd a throsodd mai 1547 ydyw.

Ond, meddir, beth am y rhif M.D.XLVI. ar yr wyneb-ddalen? Gall hynny fod yn fai'r wasg: hawdd iawn, fel y gŵyr pawb, yw cario drosodd rif yr hen flwyddyn i'r flwyddyn newydd. Neu ynteu, gall 1546 yma olygu dechrau 1547. Gwyddys, yn dda ddigon, er bod pob calendr yn dechrau'r flwyddyn gydag Ionawr, eto, yn ôl yr hen ddull, Mawrth 25 oedd y dydd i newid ffigiwr y flwyddyn. Buasem ni yn galw'r flwyddyn yn 1547 o Ionawr 1 hyd Ragfyr 31; ond yn yr oes honno, 1546 oedd hi yn swyddogol hyd Mawrth 24, a 1547 ymlaen o Fawrth 25 hyd Mawrth 24 yn ein 1548 ni. Tybiwn i'r llyfr fynd i'r wasg ddechrau 1547: hyd Mawrth 25 y rhif swyddogol fuasai 1546. Ond gan fod yr awdwr yn gwybod na fydd ei lyfryn yn llaw'r darllenwyr hyd ddiwedd Mawrth, medr ddatgan yn groyw mai 1547 yw ‘y vlwyddyn hon’, er gwaethaf y 1546 ar y ddalen gyntaf.

Dengys ei Annerch at y darlheawdyr, fodd bynnag, ei fod yn ysgrifennu yn gynnar iawn yn Ionawr, 1547. Dywed nad oes dim hoffach gan ras ein brenin na gweled bod geiriau Duw a'i efengyl yn cerdded yn gyffredinol ymysg ei bobl ef. A phan roes eisoes gymaint o ddoniau presennol (h.y., daearol, amserol) i genedl y Cymry ni bydd llesgach i ganiatáu iddynt ddoniau ysbrydol. Y Brenin hwn yn ddiau yw Harri VIII., y gŵr a roes Gymro a Sais ar dir cyfreithiol cydradd, yn 1536. Bu farw Ionawr 28, 1547 (Fisher, Political Hist. of Eng., 480), and ceisiwyd cadw'r peth yn ddistaw am ddyddiau. Heb os, ni chlywsai Syr John Price am ei farw pan luniodd ei ragair: yr oedd yn llaw'r argraffydd erbyn hynny, ac mewn print, ac ni ellid ei newid.

Y mae dyddiad marw Harri VIII yn bwysig hefyd i bwrpas amseru llyfr arall, sef, A Dictionary in Englyshe and Welshe, Salesbury. Ar ddiwedd hwnnw ceir, ‘Imprinted at London in Foster lane, by me, John Waley (1547).’ Eto cyflwynwyd ef, ‘To the moost victoriouse and Redowbtede prince Henry theyght,’ ac yn ei anerchiad at y darllenydd, dywed W.S. fod y brenin a'i gyngor wedi derbyn ei lyfr ef eisoes, ‘yn lowedic gymradwy,’ ac â ymlaen i sôn am law Duw, ‘yr hwn a gatwo eu ras yn hirhoedloc lwyddianus ffynadwy Amen.’ Felly nid oedd W.S. chwaith yn gwybod fod Henry theyght wedi dirwyn ei oes i ben, pan anfonwyd y Dictionary i'r argraffydd. Yn sicr yr oedd y weddi am hir oes iddo wedi ei phrintio'n derfynol cyn Ionawr 28, 1547. Aethai'r Cyflwyniad Saesneg i'r Brenin i fyny i Lundain gyda'r llyfr ei hun rywbryd yn 1546, canys rhoddwyd trwydded i Salesbury a John Waley brintio ‘oure booke entitled a Dictionarie bothe in englyshe and Welche,’ ar y trydydd ar ddeg o Ragfyr yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Harri VIII, sef Rhagfyr 13, 1546 (Oll Synnwyr Pen, 1902, td. xiii., dyfyniad o ddiwedd Llith a Ban). Rhaid mai ar ôl derbyn y drwydded hon yng nghanol Rhagfyr y lluniodd W.S. ei air ‘wrth y darlleawdr,’ lle dywed, ‘ddarfod or blaen i oruwcheldab awn harglwydd vrenhin au gyncor edrych arnaw ai dderbyn eissoes yn lowedic;’ a rhaid hefyd fod dechrau'r llyfr mewn print cyn diwedd Ionawr, 1547, adeg marw Harri VIII. Petasai'r argraffydd wedi cofio rhoi'r rhif ar yr wyneb-ddalen, buasai wedi rhoi 1546 yno yn ôl yr hen ddull. Ond erbyn iddo gyrraedd y ddalen olaf, gan fod Mawrth 25 wedi cyrraedd bellach, rhoes yntau 1547 ar y gynffon. Ni fedraf yn fy myw weld fod y cyfeiriad at y brenin (Harri VIII yn sicr) ar ddechrau Yn y Lhyvyr Hwnn yn profi ddarfod printio y llyfr yn 1546, mwy nag y mae'r cyfeiriad pendant at Harri dan ei enw, gyda'r dymuniad am hir oes iddo, yn profi fod y Dictionary allan o'r wasg cyn diwedd Ionawr, 1547. Os yw 1547 ar ddiwedd yr olaf, cyfeirir yn y llall deirgwaith at 1547 fel y flwyddyn hon.

Erys un wrth-ddadl. Onid naturiol iawn fuasai i luniwr Almanac sydd i fod ar arfer yn 1547 alw'r flwyddyn honno y flwyddyn hon, er bod y llyfr yn y wasg yn 1546? Onid hyn yw arfer almanacwyr ein hoes ni, er bod eu llyfrau mewn print ysbaid cyn Ionawr? Fy ateb i hyn yw, nid almanac ar gyfer 1547 yn unig sydd yn Yn y Lhyvyr Hwnn, ond almanac am ugain mlynedd, 1547-1566. Ac fel y dywedwyd gynnau, os printiwyd y llyfr rywdro rhwng Ionawr 1 a Mawrth 24, 1547, teg fuasai disgwyl i'r argraffydd roi 1546 arno yn ôl arfer ei oes. O leiaf, dyry Chambers's Encyclopædia (dan Chronology) enghraifft o beth tebyg: ‘A Scottish writer assigned the execution of Charles I. to 1649, and his English contemporary to 1648, though both agreeing as to the month and day; because in Scotland the year began with the 1st of January, as it had done since 1600, and in England the 25th March was still New-year's Day ... The most common New-year's Days were these four – (a) 25th December; (b) 25th March; (c) Easter; (d) 1st January. Thus England used both the first and the second from the 6th century to 1066; the fourth till 1155; then the second till the day after 31st December, 1751.’ Felly yn 1547 y dull yn Lloegr oedd dechrau'r flwyddyn Mawrth 25. Ar hyn gweler ymhellach Fisher, The Welsh Calendar, td. 9; dywed ef fod Beiblau cyn 1752 yn egluro pam y dechreua'r flwyddyn y dydd hwnnw, a dyfynna Feibl Dr. Parry, 1620. ‘Nota hefyd fod cyfrif blwyddyn yr Arglwydd yn dechrau ar y pumed dydd ar hugain o fis Mawrth, y dydd y tybir dechreu creu'r byd arno, a'r dydd y câd Christ ynghroth y Forwyn Fair,’ yr ŵyl a eilw Allwydd Paradwys, 1670, yn Annuntiatiwn Mair, neu Gyfarchiad Mair, a'r Llyfr Gweddi, yn 1664, yn Gennadwri y Fendigedig Fair Forwyn.

Gefeilliaid cyntaf y wasg Gymreig yn ôl Dr. Gwenogvryn Evans oedd Yn y Lhyvyr Hwnn ac Oll Synnwyr Pen. Nid oes flwyddyn cyhoeddi o gwbl yn yr olaf, ond ei ddadl ef yw fod Dictionary 1547 ac O.S.P. yn debyg i'w gilydd mewn un pwynt o orgraff, sef na cheir lh am ll, na am dd ynddynt, newyddbeth a geir yn llyfrau diweddarach W.S., effaith dynwared orgraff Yn y Lhyvyr Hwnn. Casglodd y golygydd, felly, na welsai W.S. mo hwnnw pan hwyliai O.S.P. i'r wasg, ac os oedd Yn y Lhyvyr Hwnn wedi ymddangos yn 1546, rhaid iddo ddadlau bod O.S.P. cyn gynhared. Syrth y ddadl i'r llawr, os wyf yn iawn mai yn gynnar yn 1547 y cyhoeddwyd llyfr Price, a bod y Dictionary hefyd yn y wasg er dechrau'r un flwyddyn, er na chyhoeddwyd mono tan ar ôl Mawrth 25. O blaid hynny y mae sylw Dr. John Davies yn ei ragair i Eiriadur Dyblyg, 1632, sef, ‘Wilielmus Salesburius, ... Dictionariolum Anglo-Brit. Regi Henrico Octauo approbatum et dedicatum, annoque salutis humanae 1547 impressum, edidit.’

I grynhoi, fy nadl i yw, mai 1547 yw'r flwyddyn y cyhoeddwyd llyfr printiedig Cymraeg gyntaf. Aeth dau i'r wasg cyn dydd marwolaeth Harri VIII., sef, Ionawr 28, 1547. Prun ddaeth allan gyntaf? Gan fod 1546 ar Yn y Lhyvyr Hwnn, boed gam neu gymmwys, ac mai ef yw'r lleiaf o ddigon o ran maint, a bod 1547 ar ddiwedd y llall, rhof y flaenoriaeth i lyfr Syr John Price. Am Oll Synnwyr Pen Salesbury, y mae diweddaru llyfr Price wedi dileu'r ddadl a ddug Dr. Evans dros ei roi yn 1546. Nid oes flwyddyn arno: argraffwyd ef gan Nycholas Hyll, ‘a gwyddom,’ medd y Prifathro J. H. Davies, ‘ei fod ef yn argraffu llyfrau rhwng 1546 a 1554. Y mae cyfeiriad yn y rhagymadrodd at waith John Heywood yn cyhoeddi ei gasgliad o Ddiarhebion Saesoneg. Daeth y llyfr hwnnw allan yn 1546, medd Lowndes, ac felly ysgrifennwyd y rhagymadrodd gan Salesbury yn, neu wedi y flwyddyn honno. Cyfeiria Salesbury hefyd at Polydore Vergil fel “un o'r dyscedickaf heddy o wyr llên Lloecr,” a chasglwn oddiwrth hyn fod Polydore ar dir y byw. Bu ef farw yn 1555,’ Yn y Lhyvyr Hwnn, 1902, td. xiv-xv. Yn ôl Dr. Evans, ceir d· yn null Price yn Ban o gyfreith Howel dda Salesbury, a ddaeth o'r wasg yn 1550, eithr nid yn O.S.P. Gellid tybio, felly, y disgyn hwnnw rhwng 1547 a 1550. Nid dydd geni efeilliaid sydd mewn dadl, and triawd.