Skip to main content

Y Print yn Dwyn Ffrwyth i'r Cymro: Yny Lhyvyr Hwnn, 1546

R Geraint Gruffydd

Y Llyfr yng Nghymru: Welsh Book Studies, Canolfan y Llyfr Aberystwyth / Aberystwyth Centre for the Book, Rhifyn 1, 1998, tt.1-20

Yn ei ragymadrodd sylweddol a huawdl i Destament Newydd 1567, y mae'r Esgob Richard Davies o Dyddewi yn gresynu bod cyn lleied o lyfrau wedi'u hargraffu yn Gymraeg hyd at y flwyddyn honno:

Mawr yw'r goleuni a ddaeth i'r byd, a mawr y cynyddodd ac y chwanegodd pob celfyddyd a gwybodaeth ysbrydol a chorfforol ymhob iaith, ymhob gwlad ac ymhob teyrnas er pan ddychmygwyd celfyddyd printio. Eithr mor ddiystyr fyddai iaith y Cymro, a chyn belled yr esgeulusid, ag na allodd y print ddwyn ffrwyth yn y byd i'w gyfrif i'r Cymro yn ei iaith ei hun hyd yn hyn o ddydd, neu ychydig cyn hyn, y gosodes William Salesbury yr Efengylau a'r Epistolau a arferid yn yr Eglwys tros y flwyddyn yn Gymraeg ym mhrint, a Syr John Prys yntau y Pader, y Credo a'r Deg Gorchymyn.1

Fel y gwyddys, cyfeirio y mae Davies at Kynniver llith a ban Salesbury, a ymddangosodd yn 1551, ac Yny lhyvyr hwnn Prys a ymddangosodd yn 1546. Nid cwbl afresymol oedd i Davies roi'r flaenoriaeth i Kynniver llith a ban yn ei ragymadrodd, gan ei fod yn llyfr llawer mwy sylweddol nag Yny lhyvyr hwnn a hefyd gan fod Salesbury, ynghyd â'r cyhoeddwr John Waley, wedi sicrhau trwydded gan y Brenin Harri VIII cyn gynhared â 13 Rhagfyr 1545 yn diogelu eu hawl o gyhoeddi ‘a Dictionarie bothe in englyshe and welche’ yn ogystal ag ‘any other booke or bookes whych oure sayde subiectes William and Ihon or eyther of them, hereafter do or shal first translate and set forth during seuen yeres next ensuing the fyrst printing of any such booke or bokes’.2 Fe gofir i A dictionary in Englyshe and Welshe Salesbury ymddangos yn 1547, wedi'i argraffu gan Nicholas Hill dros Waley;3 ac y mae pob lle i gredu mai Kynniver llith a ban oedd y cyntaf o'r cyfieithiadau yr oedd yn fwriad gan Salesbury a Waley eu cyhoeddi yn 1545, er mai Richard Grafton a argraffodd y gyfrol honno dros Robert Crowley. Gellir honni hyn am ddau reswm yn bennaf: yn gyntaf, fe fynnodd Salesbury gynnwys copi o drwydded y brenin yn atodiad i'w gyfrol; ac yn ail, yr oedd darllen Epistol ac Efengyl y Dydd yn Saesneg wedi bod yn rheol mewn rhai esgobaethau Seisnig er 1538, a phrin fod angen proffwyd i ragweld y cymhwysid yr un rheol at y deyrnas yn gyfan, gan gynnwys Cymru, cyn hir - yr hyn yn wir a ddigwyddodd yn 1547.4 Eithr wedi ceisio esgusodi Davies fel hyn am roi'r flaenoriaeth i Kynniver llith a ban rhagor nag Yny lhyvyr hwnn yn ei ragymadrodd, erys y ffaith mai Yny lhyvyr hwnn a ymddangosodd gyntaf o bum mlynedd, mai ef yn wir oedd y llyfr printiedig Cymraeg cyntaf i ymddangos, a chystal inni roi ein sylw iddo ef o hyn ymlaen. (Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, anodd peidio â dyfalu pam na chyfeiriodd Davies o gwbl at y casgliad diarhebion Oll Synnwyr pen Kembero ygyd gan Salesbury, a ymddangosodd yn ôl pob tebyg yr un flwyddyn â'r Dictionary, wedi'i argraffu gan yr un argraffydd dros yr un cyhoeddwr, oni bai fod Davies yn anhoffi'r ffaith fod Salesbury'n cyfaddef yn ei ragymadrodd ei fod wedi 'brithladrata' y casgliad oddi ar ei gyfaill Gruffudd Hiraethog!)5

Sylwn felly ar Yny lhyvyr hwnn.6 Y mae'n briodol gwneud hynny ar dudalennau'r cylchgrawn newydd hwn nid yn unig am mai ef oedd y llyfr printiedig Cymraeg cynharaf, and hefyd am iddo ymddangos ychydig dros bedair canrif a hanner yn ôl. Dadleuid ar un adeg mai yn 1547 - bedair canrif a hanner union yn ôl - yr ymddangosodd, and dangoswyd erbyn hyn nad yw hynny'n debygol. Gan imi ysgrifennu fy hun ar y llyfr ddiwedd y chwedegau, fe geisiaf beidio ag ailadrodd hyd syrffed yr hyn a ddywedais bryd hynny, and fe anogwn - yn anwylaidd braidd - bawb sydd â diddordeb yn y maes i ddarllen yr erthygl honno hefyd, yn enwedig er mwyn y cyfeiriadau sydd ynddi.7

Gair am awdur y llyfr i ddechrau. Y gwir yw fod Syr Siôn Prys yn haeddu llyfr sylweddol iddo'i hun, a bod digon o ddeunydd ar gael i sgrifennu'r llyfr hwnnw.8 (John Prise oedd y ffurf ar ei enw a arddelai yn Saesneg, and nid wyf yn meddwl y byddai'n gwarafun cael ei alw'n Siôn Prys yn Gymraeg.) Uchelwr o Frycheiniog ydoedd, a aned 1502/3 ac a allai olrhain ei achau drwy ei dad Rhys ap Gwilym Gwyn dros dair cenhedlaeth ar ddeg i Fleddyn ap Maenyrch.9 Addysgwyd ef yn Rhydychen yn y celfyddydau a'r gyfraith sifil, and yng Nghaergrawnt y graddiodd, yn Faglor yn y Gyfraith Sifil, yn 1535-6. Erbyn 1530 yr oedd yng ngwasanaeth Thomas Cromwell, a ddaeth yn fuan yn ysgrifennydd y brenin ac yn Arglwydd y Sêl Gyfrin; priododd Prys nith i Cromwell yn 1534 a bu iddynt chwe mab a phum merch. Dan nawdd pwerus Cromwell daeth amryw swyddi i ran Prys: er enghraifft, yr oedd yn gyd-gofrestrydd cyffredinol mewn materion eglwysig erbyn 1534 ac yn notari cyhoeddus erbyn 1536. Golygai'r swyddi hyn gryn deithio, yn enwedig wrth ymweld â rhai o'r mynachlogydd cyn diddymu'r rhai lleiaf yn 1535 a'r rhai mwyaf yn 1539 (daeth yr ymweliadau hyn ag enw drwg i Brys and bellach tueddir i'w amddiffyn). Ni bu'r gweithgarwch hwn heb ei wobr, gan i Brys lwyddo i brydlesu priordai Aberhonddu a Henffordd, gan wneud y ty yn Henffordd yn brif gartref iddo; yr oedd iddo diroedd eraill yn ogystal. Dienyddiwyd Cromwell 28 Gorffennaf 1540 - dyn peryglus i fod yn rhy agos ato oedd Harri VIII - ond ni chollodd Prys ffafr yr awdurdodau: gwnaed ef yn ysgrifennydd Cyngor Cymru a'r Gororau yn Llwydlo 29 Medi 1540, ac er i'r apwyntiad achosi peth ymrafael fe'i daliodd hyd ei farwolaeth 15 Hydref 1555. Pan goronwyd y bachgen Edward VI 22 Chwefror 1547 urddwyd Prys yn farchog. Etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir Frycheiniog yn 1547, ac ni bu senedd wedyn yn ystod ei fywyd na bu'n aelod ohoni, yn cynrychioli amrywiol seddau. Bu'n siryf sir Frycheiniog 1542-3 a sir Henffordd 1553-4. Ar wahanol adegau rhwng 1542 a 1555, enwyd ef yn Ynad Heddwch ymhob un o siroedd Cymru a'r Gororau, er bod lle i gredu mai yn siroedd Morgannwg a Mynwy y bu'n fwyaf gweithredol.

Cafodd Syr Siôn Prys yrfa gyhoeddus bur lachar felly, ac yn sicr fe'i canfyddid fel esiampl o Gymro yn codi unwaith eto'n weddol uchel yn y deyrnas dan nodded y Tuduriaid, wedi'r darostwng hir ar oreugwyr y wlad a ddilynasai buddugoliaeth Edward I yn 1282/3.10 (Prin fod angen pwysleisio mai rhannol wir yn unig ydoedd y ddwy wedd ar y canfyddiad hwn.) Ond nid gwas sifil gweddol bwysig yn unig ydoedd, o bell ffordd. Er ei ieuenctid, meddai ef, bu'n ymddiddori yn hanes ac iaith y Cymry, a bu ei waith ynglyn â diddymu'r mynachlogydd yn fodd iddo gynnull casgliad godidog o lawysgrifau canoloesol a fuasai unwaith ar silffoedd llyfrgelloedd y mynachlogydd hynny: yn wir, bernir mai ef, John Bale a John Leland oedd y tri chasglydd llawysgrifau pwysicaf yn y cyfnod yn dilyn diddymiad y mynachlogydd. Ar sail ei gasgliad o lawysgrifau a llyfrau printiedig, lluniodd draethawd Lladin yn amddiffyn Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy yn erbyn y rhai a ymosodai arno, yn enwedig yr Eidalwr Polydore Vergil yn ei Anglica Historia (1534): cyhoeddwyd Historiae Brytannicae Defensio Prys yn 1573, ddeunaw mlynedd wedi i'r awdur farw. Yn yr un modd cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg Humphrey Lhwyd o draethawd Lladin gan Prys yn disgrifio Cymru, 'The Description of Wales', ar ddechrau llyfr Dr David Powel, Historie of Cambria, now called Wales, yn 1584. Eithr aros mewn llawysgrif a wnaeth ei draethawd ar adfer gwerth arian bath a luniodd ddechrau teyrnasiad Mari I (1553). Ac nid erys ei draethawd ar yr Ewcharist, yr honnodd John Bale iddo ei weld, hyd yn oed mewn llawysgrif. Llawn mor ddiddorol â'r gweithiau ffurfiol hyn yw llyfr amrywiaeth Prys, bellach llawysgrif Coleg Balliol, Rhydychen, rhif 353 (ceir copi ffotostat yn llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, rhif 9048E). Cynnwys hwn, ymhlith llawer o eitemau eraill pur ddadlennol, yr holl ganu mawl i Brys gan feirdd proffesiynol sydd wedi'i gadw: awdlau gan Thomas Fychan a Lewys Morgannwg, cywyddau gan Lewys Morgannwg (dau ohonynt) a Gruffudd Hiraethog. Arbennig o ddiddorol yw'r awdl gan Thomas Fychan, gan fod awdlau marwnad gan Siôn Mawddwy i Thomas Fychan o Borthaml ym Mrycheiniog (bu farw 7 Gorffennaf 1590) a'i chwaer Ann Games11 wedi eu cynnwys yn llaw'r bardd ei hun yn llawysgrif Balliol 353; anodd credu nad y Thomas Fychan hwn oedd y 'Thomas Vaughan of Glamorganshere' y cymynroddodd Siôn Prys iddo 'my welche bookes' gan y gellir, o ddilyn awgrym yn awdl Siôn Mawddwy, egluro'r 'of Glamorganshere' am wr o Frycheiniog drwy dybio fod Vaughan wedi bod am flynyddoedd lawer yn gwasanaethu Ieirll Penfro ar eu tiroedd ym Morgannwg.

Erbyn 1546 yr oedd (os cyfrifir adargraffiadau) tua phedair mil o eitemau printiedig - yn llyfrau, llyfrynnau a dalennau unigol - wedi'u cynhyrchu yn Lloegr, neu yn Saesneg mewn gwledydd eraill, and nid oedd yr un eitem o'r fath wedi ymddangos yn Gymraeg.12 Ni welaf le i amau nad safle wleidyddol israddol Cymru yn ystod yr oesoedd canol diweddar a oedd yn bennaf cyfrifol am y diffyg hwn, er bod tlodi cymharol y wlad hefyd yn sicr yn ffactor. Nid rhyfedd i'r dyneiddwyr Cymreig, sef y gwyr bonheddig ifainc hynny o Gymru a fuasai yn y prifysgolion yn Lloegr ac ymglywed yno â delfrydau'r Dadeni Dysg, deimlo i'r byw wrth y sefyllfa hon.13 Prys oedd y cyntaf o'r dyneiddwyr hyn ac yn ei 'Annerch' ar flaen Yny lhyvyr hwnn y mae'n mynegi'i bryder rhag i Gymru gael ei hamddifadu'n llwyr o fendithion y wasg argraffu, yn union fel y gwnaeth Richard Davies un mlynedd ar hugain yn ddiweddarach:

Ac yn awr y rhoes Duw y print i'n mysg ni er amlhau gwybodaeth ei eiriau bendigedig ef, iawn inni, fel y gwnaeth holl Gristionogaeth heb law, gymryd than o'r daioni hwnnw gyda 'ynhwy, fal na bai ddiffrwyth rhodd cystal â hon i ni mwy nog i eraill.14

Ond heblaw'r argyfwng cyffredinol hwn, yr oedd hefyd argyfwng llawer mwy penodol yn ysbarduno ymddangosiad Yny lhyvyr hwnn. Yn ystod haf 1545 fe gyhoeddwyd dau lyfr Saesneg, The Primer, set foorth by the kynges maiestie and his Clergie a The A.B.C set forthe by the Kynges maiestie and his Clergye, a gorchymyn trwy broclamasiwn mai hwy yn unig a oedd i'w darllen a'u dysgu drwy'r deyrnas:15 hynny yw, yr oedd yr un sefyllfa wedi'i chreu parthed y Primer a'r A.B.C. ag a greesid parthed Epistolau ac Efengylau'r Dydd yn 1538 - sefyllfa, fel y gwelsom, y mynnodd William Salesbury ei hwynebu gyda Kynniver llith a ban. Yr wyf yn bur sicr erbyn hyn mai ymateb i ymddangosiad y Primer a'r A.B.C. swyddogol yr oedd Yny lhyvyr hwnn. Y mae'n wir nad yw'n 'Primer' gan nad yw'n cynnwys Oriau'r Forwyn Fair (er ei fod yn cynnwys calendr), ac nad yw'n 'A.B.C.' ychwaith gan nad yw'n cynnwys catecism (er ei fod yn cynnwys gwyddor). Rhyw gyhoeddiad hybrid ydyw felly, and nid yw ronyn yn llai diddorol oblegid hynny.

Pamffledyn o ddau dudalen ar bymtheg ydyw Yny lhyvyr hwnn, ar fformat cwarto bychan. Ni fwriedid yn wreiddiol iddo fod yn fwy nag un tudalen ar bymtheg, sef dwy len sengl ynghyd âg un llen ddwbl, and bu raid ychwanegu dalen errata ar y diwedd. Nid rhyfedd hynny, gan na wyddai'r argraffydd Edward Whitchurch ddim Cymraeg, and ef ynghyd â Richard Grafton, y ddau o Lundain, oedd argraffwyr swyddogol y Primer a'r A.B.C., ac nid oedd gan Brys ddewis and mynd at un ohonynt.16 Fel y mae'n digwydd, y mae'r ddalen errata yn bur ddiddorol, er ei bod ymhell o fod yn gyflawn; arbennig o ddiddorol yw'r erratum olaf:

O bydd d yn lle yr ð o eisiau llythyrau o'r fath hynny y bu.17

Hynny yw, nid oedd gan Edward Whitchurch stoc ddigonol o'r llythyren ð! Teitl cyflawn y llyfr yw Yny llyvyr hwnn y traethir. Gwyðor kymraeg. Kalandyr. Y gredo, neu bynkeu yr ffyð gatholig. Y pader, ney weði yr arglwyð. Y deng air deðyf. Saith Rinweð yr egglwys. Y [sic] kampey arveradwy ar Gwyðieu [sic] gochladwy ae keingeu. M.D.XLVI. 'Yn y llyfr hwn y traethir. Gwyddor Cymraeg. Calendr. Y gredo, neu byncau yr ffydd Gatholig. Y pader, neu Weddi yr Arglwydd. Y dengair Deddf. Saith rinwedd yr eglwys. Y campau arferadwy a'r gwydiau gochladwy a'u ceingau. 1546.' Gosodwyd y teitl o fewn border tudalen teitl o eiddo Whitchurch, ac ar waelod hwnnw y mae dyfais yr argraffydd. Fel yr eglurwyd, nid 'Primer' nac 'A.B.C.' fel y cyfryw a geir yma ac felly ni alwyd y llyfryn nac yn 'Llyfr Plygain' nac yn 'Wyddor'. Yn rhyfedd iawn, y cyhoeddiad â'r teitl tebycaf i Yny lhyvyr hwnn yw pamffledyn deg tudalen a argraffwyd gan Richard Pynson yn Llundain tua 1520: In this boke is conteyned the Articles of oure fayth. The .x. commaundementes. The .vii. works of mercy. The.vii. dedely synnes. The .vii. pryncypall vertues. And the .vii. Sacramentis of holy Chirche which euery curate is bounde for to declare to his parysshens [sic] .iiii. tymes in the yere. Ond mewn gwirionedd y mae llyfryn Pynson yn llawer symlach nag yw Yny lhyvyr hwnn.

Gellir rhestru cynnwys llyfr Siôn Prys yn fras fel a ganlyn:

1. [tt.3-5] Kymro yn danvon Annerch at y darlheawdyr. Yma y mae Siôn Prys yn canmol y brenin am roi i'r Cymry fendithion bydol [h.y. Deddfau Uno 1536 a 1543], ac y mae'n sicr ei fod am ganiatáu iddynt fendithion ysbrydol hefyd. Am hynny gweðys yw rhoi yngymraec beth or yscrythur lan, gan fod llawer o Gymry'n medru darllen Cymraeg and heb fedru darllen Saesneg neu Ladin (peth y mae Prys yn gresynu ato); nodir y darnau fel y Credo, y Pader, y Deg Gorchymyn, a'r gwydyeu gochladwy ar kampeu ar veradwy [sic] - sylwer mai dim ond y Pader a'r Deg Gorchymyn sydd yn y Beibl! Dywed Prys fod y rhain gyda lhawer o betheu da erailh yn yskrivennedic mewn bagad o hen lyfreu kymraeg, ond nid yw'r hen lyfrau hyn ar gael yn gyffredinol ymysg y bobl. Rhaid felly fanteisio ar y print (gw. uchod, t.8), ac er mor ddymunol fyddai petai pob Cymro'n medru Saesneg neu Ladin, eto nid felly'r oedd, a phechod fyddai gadael i'r Cymry uniaith fynd yn golledig oherwydd anwybodaeth o'r ffydd. Beiir y gwr eglwysig am yr anwybodaeth hon, and addefir fod gan leygwyr dawnus gyfrifoldeb hefyd, ac felly y mae Prys, o weld amddifadrwydd ysbrydol y Cymry (er eu bod yn gystal pobl â neb yn y bôn), yn cynnig y llyfr hwn iddynt er da[n]gos blas yðyn o velysper ewylhus duw ac er kadw eu henaidieu. Anogir y Cymry i ymateb, rhag bod Prys wedi llafurio'n ofer.

Llythyr annerch byr and llwythog yw hwn, ac y mae rhai o'i themâu'n ailymddangos dro ar ôl tro yn ystod cwrs y Dadeni Dysg Cymreig.

2. [tt.5-8] Rheol y aðnabod [sic] y Gwyðor issod. Y gwyðor. Rheol. Rheol aralh. Dyma adran 'A.B.C.' y llyfryn. Ceir nodyn rhagarweiniol, yna'r wyddor ei hun, yna nodyn hynod ddiddorol ar ynganiad a pherthynas ynganiad ag orgraff (ysywaeth, nid oedd gan Edward Whitchurch yr acenion dyrchafedig yr oedd yn rhaid i Brys wrthynt i gyflawni ei fwriadau), yna nodyn pellach ar ansawdd y cytseiniaid a'r llafariaid gyda sylwadau ar dreiglo, ynganu, sillafu ac acennu; cloir drwy ddadlau y byddai'r wyddor Roeg yn addasach ar gyfer y Gymraeg na'r wyddor Ladin, ond gan gydnabod na ellid bellach roi heibio'r hen arfer. Yr oedd gan Brys chwilen yn ei ben ynglyn ag addaster yr wyddor Roeg ar gyfer y Gymraeg, a daw ei wybodaeth am y drafodaeth academaidd gyfoes parthed ynganu Lladin a Groeg i'r amlwg fwy nag unwaith yn ystod yr adran fer hon.18

3. [tt.9-20] Y Calendr. Rhoddir tudalen i bob mis gan nodi'r prif seintiau, ynghyd â pheth gwybodaeth am arwyddion y sygnau yn ogystal. Y mae'r saint Seisnig ac Ewropeaidd yn y calendr yn cyfateb yn weddol (nid yn hollol) i'r rhai a geir yng nghalendr Primer 1545, ond fe fynnodd Prys ychwanegu atynt nifer mawr o seintiau Cymreig wedi'u codi, yn ôl pob tebyg, o hen galendr canoloesol na ellir bellach ddod o hyd iddo. Ar waelod y tudalen ar gyfer pob mis ceir cyfarwyddiadau amaethyddol hynod ddiddorol, na allwyd hyd yn hyn olrhain eu ffynhonnell. Efallai mai gwaith Prys ei hun oeddynt, wedi'u hysbrydoli o bosibl gan yr ysgythriadau o orchwylion y misoedd a oedd i'w gweld yn aml mewn Llyfrau Oriau a Llyfrau Plygain cynnar.19

4. [tt.21-4] Almanak dros ugaint mlyneð. Rheol y aðnabod [sic] y Pask [yn] dragwyðol, ynghyd â nodiadau atodol.

Y mae'r Almanac yn dangos dyddiad y Pasg am ugain mlynedd rhwng 10 Ebrill 1547 a 24 Ebrill 1566, tra bod y nodyn wrth ei gwt yn galluogi'r darllenydd i glandro dyddiad y Pasg at gyfer unrhyw flwyddyn a fyn. Esbonnir wedyn pam fod rhaid wrth flwyddyn naid bob pedair blynedd, beth yw perthynas cylchdro'r lleuad â chylchdro'r haul, a beth yw arwyddocâd y rhif euraid y ðychymmygoð Iwl Kesar gyntaf. Yna nodir y rhifau 1-23, 30, 40, 50, 60, 70, 80, 90, 100, 101, 102, 1000, 2000, 3000 a 10000 gan ddangos beth yw'r rhifolion Rhufeinig at eu cyfer a hefyd eu henwau yn Gymraeg. Gorffennir gyda sylw digon gogleisiol at yr 'awgrym', sef y gyfundrefn Arabaidd o gyfrif, gan fyfyrio ychydig ar rym y rhifol 0. Dyma'r math o ddeunydd a fyddai gyda hyn yn ymddangos yn rheolaidd yn Llyfrau Gweddi Gyffredin Saesneg 1549, 1552 a 1559, ac fe'i gwelir, fel y disgwylid, yn Lliver gweddj gyffredjn William Salesbury, 1567. Cyd-ddigwyddiad hapus yw fod almanac Prys yn gorffen yn 1566 ac un Salesbury'n dechrau yn 1567!

5. [tt.25-32] Credo, neu bynkey yr ffyð gatholic. Pater noster, ney weði yr arglwyð. Aue Maria. Krist y ðywad val hyn (loan 15:16, 16:23; Mathew 6:33]. Y deng air deðyf, ney yr dec gorchymmyn Duw. Krist a roes yn ni ðeu orchymmyn er kyflawny yr holh degair [sic] uchod [Luc 10:27]. Y gwydyeu gochladwy. Y saith pechod marwol. Y kampeu arveradwy. Kampeu da gwrthwyneb yr gwydieu vchod. Keingyeu syberwyt. xvi. Keingieu kenvigen. Keingyeu digasseð. Keingieu lhesgeð. ix. Keingyeu Aghawrdeb neu gebyðiaeth. xv. Keingyeu glythyneb, xii. Keingyeu Aniweirdeb. vii. Saith rinweð yr eglwys. Saith we[i]thred y drigareð.

Dyma'r deunydd crefyddol sy'n galon y llyfr, er nad yw mewn gwirionedd ond yn hawlio chwarter y gofod sydd ynddo. Yn dilyn Rheoliadau'r Pedwerydd Cyngor Lateran yn 1215, ac yn enwedig Gyfansoddiadau'r Archesgob John Peckham yn 1281, bu'n arferiad dysgu'r deunydd hwn yn y famiaith drwy wledydd Cred ac yn enwedig yn nhalaith Caergaint (a oedd yn cynnwys yr esgobaethau Cymreig). Y mae tystiolaeth o dridegau a phedwar-degau'r unfed ganrif ar bymtheg fod hyn yn cael ei wneud drwy'r Gernyweg yn esgobaeth Caer-wysg a thrwy'r Gymraeg yn esgobaeth Bangor. Y mae bron yn sicr fod Prys wedi codi'i ddeunydd, er wedi'i addasu ryw gymaint, o rai o'r bagad o hen lyfreu kymraeg y mae'n sôn amdanynt yn ei Annerch ac yr oedd yn berchen ar lawer ohonynt. Yn fwyaf arbennig, y mae ei ymdriniaeth â keingyeu y Saith Pechod Marwol (y 'Tree of Vices' fel y'u hadnabyddid yn Saesneg) wedi'i godi o'r testun cyfriniol Cymraeg o'r drydedd ganrif ar ddeg 'Ymborth yr enaid', er bod y deunydd wedi'i dalfyrru a'i ddiwygio i raddau gan Brys; arbennig o drawiadol yw'r ffaith fod Prys wedi dileu pob cyfeiriad at breladiaid yn ei destun gwreiddiol.20

6. [t.33] Beieu y ðiskynnoð o walh y pryntiwr wrth daro.

Y mwyaf diddorol o'r 'beiau' hyn (ar wahân i'r un a nodwyd eisoes, t.9) yw fod yr wythfed gorchymyn, Na wna ledrad, wedi'i adael allan, ond annheg â Phrys yw awgrymu fod a wnelo hyn â'i weithgareddau ynglyn â diddymu'r mynachlogydd!

Efallai y byddai'n werth gwneud dau sylw am y llyfr yr ydys newydd amlinellu ei gynnwys. Yn y lle cyntaf y mae'n cyflawni'r nod a osododd at ei gyfer ei hun, sef bod yn llawlyfr addysg grefyddol elfennol. Fel y sylwyd yn barod, y mae'r testunau a geir yn ei draean olaf yn rhai a fu'n sylfaen i hyfforddiant crefyddol trwch y boblogaeth er 1215 yn yr eglwys orllewinol yn gyffredinol ac er 1281 yn esgobaethau talaith Caergaint yn enwedig. Teg nodi, fodd bynnag, natur gymysg y testunau yn ddiwinyddol. Testunau Catholig yn eu hanfod yw Cyfarchiad Mair neu'r 'Ave Maria', y Saith Sagrafen neu 'Saith Rinwedd yr Eglwys', a 'Saith Weithred y Drugaredd'; a pherthyn i system diwinyddiaeth foesol Eglwys Rufain y mae'r ymdriniaeth â'r Saith Pechod Marwol a'u ceinciau. Ar y llaw arall, y mae'r sôn yn yr Annerch am rhoi yngymraec beth or yscrythur lan, y dyfynnu o eiriau Crist wedi'r 'Ave Maria', ac yn enwedig y fersiwn a ddyfynnir o'r Deg Gorchymyn, sy'n cynnwys yr ail orchymyn ar wahân ac yn ei grynswth,21 yn awgrymu'n gryf fod yma hefyd ymgais i adlewyrchu'r duedd at Ddiwygiadaeth neu broto-Protestaniaeth a nodweddai deyrnasiad Harri VIII, er nad yn gyson o bell ffordd, wedi'r ymadawiad ag Eglwys Rufain yn 1534.22 Y mae popeth a wyddom am Brys yn awgrymu fod ei safbwynt ef yn debyg iawn i eiddo'i frenin: croesawai ddiwygiadau Harri VIII gyda'u pwyslais cyfyngedig ar ddysgu'r Beibl yn y famiaith, a'u drwgdybiaeth ddofn o awdurdod pab ac esgob ac offeiriad, ond y mae'n amheus a oedd wrth ei fodd gyda Phrotestaniaeth groyw y Brenin Edward VI a'i gynghorwyr, a'r tebyg yw i adferiad Pabyddiaeth dan y Frenhines Mari I fod yn gryn ollyngdod iddo: y mae ei ewyllys olaf, o leiaf, yn drwyadl Gatholig ei naws.

Yr ail beth i'w ddweud am Yny lhyvyr hwnn yw ei fod hefyd, yn ei ffordd wylaidd ei hun, yn ddogfen ddyneiddiol: nid oes raid ond ei gymharu â'r llyfryn â theitl tebyg a argraffwyd gan Richard Pynson tua 1520 i weld hynny ar unwaith. Gwelir dyneiddiaeth Prys yn yr ymdriniaeth bur gywrain â'r wyddor Gymraeg ar ddechrau'r llyfr sy'n dangos, fel y nodwyd eisoes (t.11), fod ei hawdur yn gyfarwydd â thrafodaethau dysgedig diweddar at ynganiad Lladin a Groeg. Ond fe'i gwelir yn bennaf yn ei agwedd at y testunau Cymraeg a gynhwysodd, gan gynnwys y rhestr o seintiau Cymreig a gymathwyd â'r calendr. Er na ellir olrhain eu hunion ffynonellau erbyn hyn, gellir bod yn bur hyderus eu bod oll wedi'u codi o rai o'r hen lawysgrifau Cymraeg y soniodd Prys amdanynt yn ei lythyr 'Annerch' ar ddechrau'r llyfr. Meddyliai Prys am gynnwys y llawysgrifau hyn fel gweddill dysg yr hen Gymry, dysg a etifeddasid drwy'r beirdd a'r derwyddon, gydag achles y Rhufeiniaid a'r eglwys gynnar, oddi wrth yr hen Roegiaid.23 Yr oedd y ddysg hon yn cynnwys diwinyddiaeth, a cheid o hyd yn y llawysgrifau ddetholion o'r ddysg ddiwinyddol hon, yn ymwneud yn bennaf â materion hanesyddol a moesol. Wrth godi (mewn ffurf olygedig) yr adran ar geinciau'r Saith Pechod Marwol o 'Ymborth yr Enaid', yr oedd Prys yn ei weld ei hun yn dwyn cyfran o ddysg yr hen Gymry i olau dydd mewn print ar gyfer cynifer o'i gyd-wladwyr ag a allai ddarllen, sef un o bennaf amcanion y dyneiddwyr Cymreig yn ystod y ganrif a hanner gwta y buont yn rhyw fath o rym yn y tir.

Wrth orffen, cystal inni fynd yn ôl i'r dechrau, a gofyn beth sy'n gyfrifol am y ffaith fod y Gymraeg o'r diwedd wedi cael ei llyfrau printiedig cyntaf yn 1546 a 1547. Y mae lle i gredu fod a wnelo William Herbert, a wnaed yn Iarll cyntaf Penfro o'r ail greadigaeth 11 Hydref 1551, rywbeth â'r mater.24 Erbyn y pedwardegau cynnar yr oedd yn dringo'n gyflym yn ffafr y brenin ac o 1543 ymlaen yr oedd yn frawd-yng-nghyfraith iddo; nid rhyfedd iddo gael ei enwi'n un o ysgutorion y brenin (a than hynny'n un o lywodraethwyr ei fab a'i etifedd Edward VI) pan fu farw hwnnw yn 1547. Y mae pob lle i gredu ei fod yn Gymro twymgalon: digon nodi yn awr mai iddo ef y cyflwynodd Arthur Kelton ei gerdd wladgarol garbwl A Commendation of Welshmen yn 1546 a Phrys fersiwn terfynol ei Defensio yn gynnar yn y pumdegau.25 Tybed a oedd Herbert yn benderfynol o hyrwyddo, hyd y gallai, achos y Cymry a'r Gymraeg o fewn y deyrnas unedig newydd a greesid gan y Deddfau Uno, a bod trwydded Salesbury ddiwedd 1545 ac ymddangosiad Yny lhyvyr hwnn yn 1546 yn ffrwythau cynnar ei nawdd a'i anogaeth ef? Gwendid y thesis yw na ellir profi cysylltiad uniongyrchol rhwng Herbert a Salesbury, er imi ddadlau yn 1969 fod gweithiau ieithyddol Salesbury yn arddangos cynefindra â thafodieithoedd de Lloegr, lle yr oedd Herbert ar ei rymusaf (er bod ganddo diroedd helaeth yn Ne Cymru a mannau eraill yn ogystal). Amgenach trywydd o bosibl yw cofio fod Salesbury yn 1550 wedi cyflwyno ei dract Protestannaidd The Baterie of the Popes Botereulx i'r Arglwydd [Richard] Rich gan honni ei fod yn wasanaethwr iddo,26 fod Rich wedi bod yn Dwrnai Cyffredinol Cyngor Cymru a'r Gororau rhwng 1532 a 1558, a bod Dr Peter Roberts wedi awgrymu y gallai fod Salesbury wedi gweithredu fel dirprwy iddo yn y swydd honno.27 Yr oedd Rich - brodor o dde Lloegr, gyda llaw - fel Herbert yn un o fawrion y deyrnas erbyn canol y pedwardegau, ac amhosibl credu nad oedd yn adnabod Herbert yn dda: yn wir, yr oedd y ddau fel ei gilydd ynglyn â gweinyddu ewyllys Harri VIII ddechrau 1547, er nad oedd swyddogaeth Rich mor ddyrchafedig ag eiddo Herbert. Gallai Salesbury yn rhwydd fod wedi dod i gysylltiad â Herbert drwy Rich, oni bai fod Herbert eisoes yn gwybod amdano o'r pedwardegau cynnar ymlaen fel Cymro ifanc arbennig o alluog a blaengar.

Tebyg i Yny lhyvyr hwnn wneud ei waith yn dda ddigon yn ei ddydd. Un copi yn unig ohono sydd ar gael heddiw, yng nghasgliad Syr John Williams yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Daeth i lyfrgell Syr John o gasgliad yr Iarll Macclesfield, a'i cawsai gan William Jones FRS, ac y mae bron yn sicr felly mai'r copi hwnnw a welodd Moses Williams a'i gofnodi yn ei Gofrestr o'r holl lyfrau printiedig, 1717. Nid yw'n amhosibl nad yr un copi a fuasai unwaith ym meddiant Humphrey Humphreys, esgob Bangor 1689-1701 a Henffordd 1701-12, and a aethai ar goll ganddo.28 Os felly, tybed ai yn Henffordd, hen gartref Syr Siôn Prys, y daeth Humphreys o hyd i'w gopi, a bod pob copi a fuasai'n cylchredeg yng Nghymru wedi'i dreulio hyd at ddiflaniad llwyr?

Abstract

The author revisits the evidence concerning the first printed book issued in the Welsh language, Yny lhyvyr hwnn, 1546, placing it in its religious and cultural context, and giving particular attention to its author, Sir Siôn Prys (John Prise). He enjoyed the patronage of Thomas Cromwell, yet survived to serve Henry VIII, Edward VI and Mary. During his many years as a civil servant in Wales he became a major collector of manuscripts and a scholar of some note. He produced Yny lhyvyr hwnn in recognition of the need to provide the Welsh with printed material, and also to respond to the publication in 1545 of The Primer and The A.B.C. in English, and the work reflects the contents of both. The author offers an analysis of the content, concluding that it is a successful elementary handbook of religious education, being at the same time a humanistic work, based on material gathered and reproduced from Welsh manuscripts. Finally, the author speculates about the possible role of William Herbert, the Earl of Pembroke, and Lord [Richard] Rich in obtaining support for the publication of the book, the first in the Welsh language.