Skip to main content

Kayley is a nonbinary therapist and writer from Caernarfon. Kayley’s debut novel Lladd Arth will be released in 2025 by Y Lolfa.  

In this commission, Kayley employs fictional realism to delve into themes inspired by historical footage of quarrying communities from the Wales Broadcast Archive. They draw attention to the historical parallels in terms of class dynamics in Wales. The contemporary housing crisis, much like the exploitative quarrying industry of the past, can have a devastating impact on the health of working-class individuals, echoing the harmful consequences faced by the same communities many years ago. 
 

Adroddiad o Chwarel Ithfaen ym Mhenmaenmawr a Phroblemau Llwch i Dai Cyfagos

Nodir fod y darn hwn yn un ffeithiol-greadigol. Nid yw’n seiliedig ar unrhyw ddigwyddiad na pherson penodol.

Mae’r safle, sef chwarel Penmaenmawr, wedi ei ddewis o Archif Darlledu Cymru fel ysbrydoliaeth yn unig, ac nid oes ffeithiau penodol am yr un chwarel benodol i’w gweld yn y darn, ond yn hytrach, ceir archwiliad o hanes chwarelwyr a’i hiechyd dros y blynyddoedd, ar draws y wlad. Ffuglennol yw’r cymeriadau a’r cymunedau penodol yma, ond mae’r sefyllfaoedd, ac effaith llwch a llwydni ar yr ysgyfaint, yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol a meddygol pendant.

Am y tro gyntaf yn hanes newyddiaduriaeth Cymru, mae gohebydd wedi ei ddarganfod sydd nid yn unig yn siarad sawl iaith a thafodieithoedd arbennigol, ond sydd hefyd wedi cyflwyno eu hunain fel bardd, neu minstrel o ryw fath. Maent yn teithio ar draws y byd, y bydysawd, a thrwy amser, i ddod a’u straeon a hanesion arbennig i ni heddiw. Rydym yn ddiolchgar iddynt, a fysan ni’n ddiolchgar hefyd i’r cyhoedd, os oes unrhyw un yn medru datgelu unrhyw wybodaeth bersonol am bwy yw’r gohebydd dirgel yma! Cysylltwch efo ni, os oes unrhyw beth fedrwch chi ei rhannu amdanynt. Yn y cyfamser, dyma eu cyfraniad.
 

Ithfaen

Mae ithfaen yn massive.
Hynny yw, nid oes strwythur mewnol ganddo.
Carreg ddi-strwythur, carreg all ei fowldio
i unrhyw siap neu faint
o dan y pwysau cywir.

Mae angen strwythyr mewnol
i fod yn hyblyg.
I newid a chymeryd siap unigryw
nid un sy’n cael
ei ddewis 
yn ddynol.

Ond mae ithfaen yn gwybod ei werth.
Daw cryfder yn ei ronynnau mân
a gyda’r rhain
daw dial.

Gwenithfaen, neu ithfaen, sydd yn cael ei fwyngloddio yn chwarel Penmaenmawr. Mae ithfaen yn garreg igneaidd, galed, ac asidig. Hwn yw un o’r creigiau fwyaf pwysig ar gyfer adeiladwaith, oherwydd ei fod yn galed ac yn medru gwrthsefyll pwysau. Mae carreg igneaidd wedi ei ffurfio o fagma o ganol y ddaear, ac mae’r magma yn cynnwys nwy a mwynau, sydd wedi eu crisialu. Dyma’r unig wahaniaeth rhwng mwynau a cherrig eraill, sef fod mwynau wedi ei crisialu. Cred rhai bod crisialau yn medru dylanwadu ar y corff, iechyd, ac emosiynau. Mae cwarts rhosyn, amethyst, neu labrodit, i gyd efo’i galluoedd iachusol eu hynain. Fe all crisialau nadu afiechydon neu orbryder, a dod â chariad neu gryfder i’r rhai sydd yn eu defnyddio yn gywir.

Mae crisialau ithfaen, felly, yn rhai sydd yn medru dylanwadu ar ein cyrff a’n meddyliau. Tybed a yw hynny’n wir o’r crisialau ym Mhenmaenmawr? Dewch i ni holi rhai o drigolion y pentre.

Dyma chi rwan, Mrs Owen sydd yn byw mewn tŷ cyngor gerllaw’r chwarel. Mi ofynnodd ein gohebydd os ydi hi’n credu mewn galluoedd iachusol yr ithfaen. Ar ôl iddi sychu ei dagra’, fe ddwedodd hi rywbeth wrthym na allwn ni ei rhoi mewn print, ond nid oedd yn gyfeillgar, na chwaith yn ymddangos eu bod hi’n credu yng ngalluoedd y crisialau. Fe ofynwn a fysa’n bosib i ni ddod i fewn i’r tŷ, i gael golwg ar sut mae byw mor agos i’r garreg pwerus yma’n effeithio ar fywydau’r trigolion.

Roedd hi’n amlwg o’r cychwyn un bod y ddynas yma ddim ’di llnau’r tŷ, oherwydd bod haen drwchus o lwch dros bopeth. Mae’n rhaid ei bod hi wedi bod yn diogi, neu yn gwneud gweithgareddau anaddas tu allan i’r cartref, yn hytrach na chadw tŷ mewn ffordd barchus. Wrth iddi dollti tê i’n gohebydd, sylweddolon nhw fod haen fach o lwch yn arnofio yn y tê. Roedd rhaid ei yfed, er mwyn bod yn gwrtais, ond nid oedd blas da arno.

Allan yn y chwarel gerllaw, clywsom fod Mr Owen yn gweithio gyda’r ithfaen yn ddyddiol. Yn ddiweddar mae Mr Owen wedi bod yn dioddef gyda pheswch trwm, a gan fod nifer o’i gymdogion hefyd yn pesychu, mae’r gymuned yn poeni fod rhywbeth yn ‘mynd o gwmpas’. Swydd Mr Owen yw torri’r cerrig ithfaen o’r chwarel yn fân iawn, er mwyn iddynt gael eu hallforio i’r Almaen, lle fyddent yn cael eu defnyddio i adeiladu’r autobahn. Nid oes terfyn cyflymder ar y lôn arbennig honno, ac felly mae ceir yn medru teithio yn gyflym a rhyddhau fwy o fwg a mygdarth i’r atmosffer. Pan ofynwyd i Mrs Owen beth oedd ei barn hi ar hyn, gofynodd i ni adel ei thŷ, a ni chynnigodd ail baned i ni.

Nid ydym, felly, yn agosach at wybod sut mae’r crisialau yn effeithio ar drigolion y pentref arbennig hwn.
 

Chwarelwyr

O dan y ddaear
tân y ddaear
golau canwyll 
neu lamp
llygaid yn addasu -
â’r dynion i lawr i’r tywyllwch.
Yma mae cyrff budr yn cyffwrdd
ac aer llychlyd yn cuddio
ymysg y duwch.
Darnau carreg, llechan
yn chwyrlïo 
fel llwch diniwed y cartref
croen, bwyd, cwsg
llwch corfforol, sy’n pydru
a diflannu.
Yn yr ysgyfaint
mae llwch yn eistedd yn drwm.

Mae pobl wedi bod yn mwyngloddio ers cannoedd o flynyddoedd. Deunyddiau caled sydd yn cael eu hechdynnu o’r ddaear, a hynny gan amlaf yn cael ei wneud gan ddynion ers yr oes ddiwydiannol, ond hefyd cyn diwydiannu gan ferched, phobl anneuaidd, a phlant ifanc. Yng Nghymru mae hanes eang o fwyngloddio, gan gynnwys glo, ond hefyd metalau gwerthfawr fel plwm, aur, sinc, arian a chopr. Fydd pawb yn gyfarwydd gyda hanes Cymry a mwyngloddio llechi, sydd yn rhywbeth gwerthfawr hyd at heddiw, gyda sawl pwll llechi ar agor i’r cyhoedd er mwy dysgu straeon y chwarelwyr yma.

Roedd perthnasau cadarn rhwng y dynion yn y chwareli. Oherwydd yr oriau maith mewn tyllau bach, tywyll, mi fysa rhaid cael rhywfaint o ymddiriedaeth yn eu gilydd, a dealltwriaeth o’u cyd-weithiwr, gan fod bywydau ei gilydd yn dibynnu ar hyn. Yn aml mi fysa chwarelwyr yn cyd-sefyll gyda’i gilydd yn erbyn pob math o rwystrau, a phawb yn gwybod eu lle a pwy oedd eu cynghreiriaid. Fysa’r chwarelwyr hyn yn partneru efo’r rhai iau er mwyn dysgu iddynt sut i [gyd]weithio. Yn aml mi fysa perchennog y chwarel yn talu’r chwarelwyr ar sail eu hallbwn, yn hytrach na thalu pawb yn gyfartal, ond mi fysa rhai o’r dynion yn rhannu eu cyflog ymysg ei gilydd yn deg, ac wrth gwrs, glowyr oedd ymysg y rhai cyntaf yn y wlad i gyd-drefnu a chreu undebau, i amddiffyn eu hamodau gwaith a chymdeithasol.

Mi fydd nifer o hynafiaid y darllenwyr yn rhan o’r naratif hon am chwarelwyr, nid oherwydd unrhyw ddathliad ohonynt ar sail eu llwyddiannau yn creu undebau neu amodau mwy diogel i chwarelwyr y dyfodol, ond oherwydd yn fwy diweddar daw hanes gwahanol am fwyngloddio i’r golau. O chwarel, daw llwch. Mae’r llwch wedi eistedd yn ysgyfaint y chwarelwyr yma am flynyddoedd. Silica yw enw’r sylwedd sydd o fewn cerrig o bob math, sy’n troi yn bowdwr mân all ymdreiddio i’r ysgyfaint. Arweinir hyn at lid, a ffibrosis. Does ddim ffordd i ddad-wneud y difrod yma i’r ysgyfaint, ond mi fysa wedi bod yn bosib ei rhwystro.

Mae’r silica yma wrth gwrs yn rhan o’r ithfaen a gafwyd ei fwyngloddio ym Mhenmaenmawr. Mae briwsion y graig yn y tebot, a’r haenau o lwch yn y tŷ, ei flas yn yr awyr, y llygredd peryglus hyn. Dyma ein gohebydd o’r gorffenol, sydd rwan gyda thipyn fwy o wybodaeth am y niwed gwneir llwch ar yr ysgyfaint. Awn drosodd atyn nhw.

 

Silicosis

bod yn fyr o wynt
trafferth gydag ymarfer corff
blinder
pesychu heb gynhyrchu unrhyw beth
lliw anarferol i’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu, fel arfer du neu lwyd
llid
dicter
diffyg rheolaeth dros eich amgylchedd
diymadferthedd
iselder
ysgyfaint sydd yn pydru
ysgyfaint sydd ddim yn gartrefol
ysgyfaint sydd angen gadael eu corff
ysgyfaint sydd yn garcharor
ysgyfaint na ellir newid, rhyddhau, na glanhau
ysgyfaint na fydd byth yn iach nac yn berchen i chi bellach

Pwy sy’n berchen ar eich ysgyfaint? Cwestiwn rhyfedd ar y naw, i rai, ond i drigolion stâd fach o dai cyngor ym Mhenmaenmawr, cwestiwn hynod o berthnasol. Os nad ydach yn berchen ar gartref eich hun, digon bosib nad ydych yn berchen ar eich ysgyfaint chwaith. Beth felly mae’n ei olygu, i fod yn berchen ar ein cyrff? Pa hawliau sydd gennym ni dros be sy’n digwydd iddo, tra bod ni’n fyw? Tydan ni ddim yn cael dewis, er enghraifft, lle cawn ni  ein geni. Hefyd does ddim bob tro dewis ar le i weithio, chwaith. Dyma’r sefyllfa i rai o drigolion pentref Penmaenmawr, wrth i’r dynion mynd i weithio yn y mwynglawdd cerrig, a’r merched aros adra i llnau haenau o lwch oddi ar bob modfedd o’u cartrefi cyngor, dwy neu tair gwaith bob dydd. Does dim hoel llnau ar y lle, dim ond hoel llwch. Mae blas llwch yng nghegau’r trigolion. Mae’r llwch yn eu bwyd, ar eu dillad. Ac yn eu hysgyfaint.

I drigolion y pentref yma, lle mae plant yn chwara’ yn ddiniwed ar y strydoedd, y gwŷr yn mynd i’w gwaith yn ddyddiol, a gwragedd yn llnau eu tai heb gwyno, mae gelyn tawel yn ymdreiddio i bopeth. Mae o’n medru bod mor fân a’i fod yn anweledig. Mor ddi-arogl fel ei fod yn cael ei anadlu heb i neb sylwi. Mor ddi-flas ei fod o’n cael ei fwyta.

Powdr carreg.

Mae’r silica yn y powdr carreg yma yn creu afiechyd. Silicosis yw enw’r afiechyd. Does dim ffordd i’w drîn nac i’w wrthdroi. Er sawl cwyn i’r chwarel a’i berchennog, does dim ateb wedi cael ei gynnig o sut a pham mae hyn wedi digwydd, ac nid ydi hi wedi bod yn bosib i’n gohebydd ni cael mynediad i’r chwarel heddiw.

Siaradwyd gyda rhai o’r trigolion, a hoffem i ni gadw eu henwau yn anhysbys, er mwyn osgoi cosb gan eu cyflogwyr, felly dyma eu geiriau nhw heb ddatgelu eu hunaniaeth.

“Dwi’n deffro yn y nos yn chwys doman. Dwi’n methu cysgu ond dwi mor flinedig. Mae ‘nghoesau i’n chwyddo, a dwi’n tagu a thrio dal fy ngwynt bob munud o’r dydd. Ond mae’n rhaid i fi dal i weithio, er mwyn ennill pres i’r teulu. Mae rhai o’r dynion eraill yn y chwaral yn tagu, a dwi’n gweld hoel du ogwmpas eu llygaid, ond does neb yn siarad am y peth yn uchel. Da ni gyd just yn cario mlaen neud be sydd angen ei wneud.”

Mae symptomau silicosis yn ymddangos blynyddoedd ar ol i’r unigolyn ddod mewn cysylltiad â’r silica. Efallai fod y symptomau yn ymddangos ymhell ar ol iddynt adael y chwarel. Dyma pam fod hi wedi cymeryd cyn hirad i greu’r cysylltiad rhwng y llwch a’r afiechyd, yn ôl rhai. Mae eraill yn mynnu na nid y chwarel sydd ar fai o gwbwl, ond diffyg ymarfer corff a bwyd iach. Onid yw gweithio yn y chwarel yn ymarfer corff? Onid yw bwyd gyda haen o lwch arno yn afiach?

Dros amser, ni fydd rhywyn sy’n dioddef o’r afiechyd yn medru cerdded i fyny ac i lawr y grisiau. Bydd rhai yn gaeth i’w tai. Bydd rhai yn methu gadael eu gwelyau. Yn y pendraw, mae’n debygol iawn y bydd yr afiechyd yma yn eu lladd.

Os ydach chi, neu unrhyw un rydych yn agos ato, wedi dioddef gyda silicosis, mae modd hawlio iawndal. Er mwy hawlio iawndal, mae’n rhaid gwneud cais drwy’r llys. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid ymchwilio’r gyfraith a dysgu fwy am eich hawliau, a chyflogi cyfreithiwr. Er mwyn gwneud hyn, mae’n bwysig eich bod yn gweithio er mwyn ennill arian, a ddim yn gorwedd yn y gwely yn cwffio gyda’ch holl egni dros bob anadl.

Mae ein gohebydd yn gadael Penmaenmawr gyda chalon drom. Ac, efallai, ysgyfaint sydd hefyd yn drymmach nac yr oedd, cyn iddynt anadlu aer y chwarel.
 

Mwyn

Yng ngraidd y ddaear
mwyngloddwyd amdano
i greu tai, lonydd
batris ffonau symudol.
Caewyd y chwareli,
rhai am byth
a rhai ar sgrechiadau
a chyrff
y plant anfonwyd lawr
yn erbyn eu hewyllys.
Collwyd fwy nag ysgyfaint
er mwyn cael iPhone 16.

Er bod sawl pwll glo a chwarel lechi wedi eu cau dros Gymru, a’r byd, mae’r nifer o fwyngloddiau cobalt yn dal i gynhyrchu yng Nghongo. Mae’r cobalt yma’n cael eu defnyddio mewn batris ceir, ffonau symudol, ac mewn gwirionedd unrhyw fatri sy’n medru cael ei ail-wefrio. Yn Ne America mae mwyngloddiau lithiwm, metal meddal sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn batris gallid ail-wefrio. Drwy greu ateb sydd ar yr arwyneb yn eco-gyfeillgar, mae’r effaith o dan wyneb y ddaear yn ddinistriol mewn ffordd wahanol iawn. Dinistrio bywydau, yn hytrach na’r amgylchedd, mae’n wir. Ac mae bywyd yn blaned hefyd.

Ni allwn adrodd ar chwareli a mwyngloddi heb gydnabod fod plant a phobl, a’r rheini yn bobl sydd wedi eu caethiwo, yn mwyngloddio am gobalt yng Nhongo a lithiwm yn Ne America ar hyn o bryd, wrth i’r geiriau yma cael eu teipio.

Rwan, cawn symud i’r reel nesa, bydd gyda neges a phwnc gwahanol.

Yntau, oes gan yr algorithm batrwm i ni?
 

Tik tok

How I got rid of my black mould
I’m SUING MY LANDLORD
HGV mould spray review
Getting my deposit back!
Watch me do a FREE CLEANING on this council flat
Peel and stick tile tutorial
Renter-friendly home hacks

Mae tai sy’n berchen i un person ond gyda rhywun arall yn byw ynddynt, yn rhywbeth sy’n eang ar draws Gymru, a’r byd. Er bod rhai o’r tai yma’n wag, mae rhai yn llawn bywyd, gyda theuluoedd neu unigolion, neu ffrindiau neu bartneriaid, yn byw eu bywydau ynddynt. Weithiau ceir sawl cenhedlaeth yn rhannu’r un tŷ. Weithiau, nid unigolyn sy’n berchen ar yr adeilad, ond sefydliad, cwmni, neu gyngor sir. Mae hyn yn codi nifer o gwestiynau o ran pwy sy’n gyfrifol am gynnal y tai yma.

Yn aml, gweler ein gohebydd fod y rhain yn adeiladau sy’n cael eu trwsio, nid eu cynnal. Hynny yw, os oes mater difrifol o’i le gyda’r tŷ, bydd hyn ar adegau yn cael ei ddatrys, yn enwedig os ydi o’n rhywbeth sy’n effeithio’r adeilad eu hun, fel difrod i’r to neu i’r waliau, ond yn llai tebygol os ydi o’n rhywbeth sy’n effeithio’r trigolion, fel boilar sydd ddim yn gweithio’n iawn, neu lwydni du ar y waliau. Er mwyn trwsio’r tai yma, mae’n rhaid i’r broblem gychwyn, yna mynd digon drwg i fod werth yr ymdrech o gysylltu gyda landlord neu berchennog, i ddadlau’r achos, ac yna aros am ateb neu ymateb. Anaml iawn daw hyn yn brydlon, nac yn hawdd. Ceir hefyd yr ofn: os nad ydynt yn cael ei gweld fel tenantiaid da a ffyddlon, ac yn cadw’n ddistaw am yr hyn sy’n mynd o’i le efo’r eiddo, efallai bydd y landlord yn penderfynu mae’r peth haws i neud fysa cael gwarad ar y tenantiaid eu hunan, yn hytrach na newid boilar neu osod ffan newydd.

Cei hefyd y broblem o orfod amddiffyn yr achos, oherwydd bod tueddiad i’r landlord mynnu mae’r rhentwr sydd ar fai, am beidio rhoi’r gwres ymlaen digon aml neu agor ffenestri. Ac eto, mae hyn yn anwybyddu’r natur gylchol o’r broblem, sef os nad wyt yn medru prynu tŷ, neu os wyt yn rhywun sy’n gorfod dibynnu ar dai cymdeithasol, dwyt ti ddim yn angenrheidiol yn rhywun sy’n medru rhoi’r gwres ymlaen am oriau yn ddyddiol, heb boeni am y biliau. Yn y cylch dieflig yma rhaid hefyd gwestiynu pam ddylsa rhywyn sy’n byw mewn tŷ perchennog preifat, cyngor, neu gymdeithasol, rhoi gymaint o ofal iddo a fysan nhw i’w tai eu hunain. Oes ddisgwyl iddynt fuddsoddi arian na welan nhw mohono eto, er mwyn cymeryd gofal o adeilad rhywun arall? Ac os ydi’r adeilad yma yn incwm i rywyn, efallai ddylsa’r cyfrifoldeb o gynnal yr adeilad yna hefyd fod yn gyfrifoldeb y perchennog.

Felly mae’r cylch yn troi, ac yn gannol y llaith a’r llwydni mae trigolion y tai yma yn ddi-gartref, oherwydd nid eu tŷ nhw ydi hwn, a does ddim rheolaeth ganddynt dros yr amgylchedd maen nhw’n gorfod byw ynddo. Os does ddim dewis a dim rheolaeth dros le maen nhw’n cael byw, tydi hyn ddim yn rhyddid na chartref. Be sydd ganddynt ydi cyfeiriad, ac mewn cylch arall o gyfeiriad, cyfrif banc, swydd/lle i flaendalu arian, dyma beth sy’n cael ei ystyried yn bwysig. Nid cartref, rheolaeth, ac iechyd, ond cyfeiriad, cofnodion, cyfrifon.

Dyma gylch arall. Dan ni’n byw o fewn y tŷ, ac mae ein hysgyfaint yn byw o fewn ein cyrff. Mae’r tŷ yn llaith ac yn llawn llwydni du. Mae ein hysgyfgaint ni’n llawn llaith a llwydni du. Mae’n iechyd yn creu iselder, a diffyg egni i ffonio bob dydd i ddadlau’r achos. Diffyg egni a chymhelliant i lanhau. Tydi’r perchennog ddim yn byw yn y tŷ. Mae eu hysgyfaint yn iach. Pob dydd, maen nhw’n mynd adra i’w tŷ eu hynan, gyda’r gwres ymlaen a’r waliau a’r silicôn ogwmpas y bath yn wyn.

Awn draw rwan at ein gohebydd sydd tu fewn i feddyliau’r landlord. Dyma’r sefyllfa, yn ôl nhw:

Maen nhw’n cael galwad arall gan rentwr y tŷ, ac yn ochneidio. Maen nhw’n meddwl: mae angen i’r bobl yma ofalu’n well am fy eiddo i. Mae angen iddynt lanhau a glanhau, ag agor ffenestri a rhoi’r gwres ymlaen a glanhau, a chadw’r lle mewn cyflwr da er bod o ddim wedi cael ei adael iddynt mewn cyflwr da, ac os oes yna broblem dwi’n disgwyl iddynt ddelio gyda fo a ddim gofyn i fi wneud. Dyma eu gwaith a’u dyletswydd nhw rwan. Fy ngwaith i ydi prynu tai, a chael eraill i fy nhalu’n fisol am yr hawl i fyw yna. Nid dod i edrych ar ôl y tai iddynt! Eu gwaith nhw yw cadw’r tŷ fel darn o gelf, i neud yn siwr nad oes hoel byw arno, i gadw’r lle fel newydd, ac os oes unrhyw dystiolaeth eu bod wedi byw yma unwaith maent yn gadael, wel, fydd rhaid iddynt fy nhalu’n ychwannegol am hyny. Tydi’r rhent ddim yn talu am hyny. Efallai os byddaf yn  codi’r rhent, fe allaf  gyfiawnhau gwneud bach o waith cynnal a chadw. Dyna syniad!

Felly, mae’r pres gan y rhentwyr yn llenwi ei bocedi. Ac mae llwydni du yn llenwi eu hysgyfaint nhw. Dyma’r blaendal, dyma’r cyfnewid, am gartref, am ddiogelwch.

A rwan dyma’n gohebydd sydd yn medru siarad iaith y llwydni du. Beth sydd gan hwnw i’w ddweud?

Dwi’n caru bod mewn llefydd llaith
mae bywyd yn creu amgylchedd perffaith
i fi ddatblygu.
Coginio, cael cawod, anadlu -
mae’r lleithder mor flasus
ga’i symud i fewn yn syth?

Mae’r gohebydd yn ofni braidd, ar y pwynt yma, oherwydd mae’r llwydni wedi cynhyrfu’n lân, a tydi o ddim i weld yn sylwi faint o ddifrod a straen mae’n creu i bobl. Dros waliau a nenfwd y gegin a’r stafell molchi mae’r llwydni wedi lledaenu, ac mae’n tyfu gwreiddiau dyfn. Hyd yn oed wrth lynu i’r arwynebau, mae dal i ryddhau sborau allan, os ca’i ei ‘styrbio. Felly, mae’n medru bod mewn sawl lle ar unwaith - ar y wal, yn yr aer, ac mewn ysgyfaint. Dyma gartref y llwydni. Mae o’n gofyn i ni eu cynnal drwy goginio heb roi’r ffan echdynnu ymlaen. Ond tydi’r ffan heb gael ei adnewyddu ers blynyddoedd, ac yn llawn saim, ac yn gwneud fwy o dwrw nac ydi o gwahaniaeth. Pan symudodd y tenantiaid blaenorol allan, ddaru’r perchennog ddim edrych ar y ffan, nac ystyried ei amnewid, neu gael siarcol newydd iddo er mwyn ei gynnal. Tydi amnewid y ffan ddim yn uchel ar restr blaenoriaethau’r perchennog.

Gadawa ni y preswylydd, y perchennog, a’r llwydni, i drafod ymysg ei gilydd, ond ym marn y gohebydd gostyngedig yma, does ddim llawer o obaith y bydd y tair yn medru cyd-fyw yn hamddenol yn y dyfodol agos.
 

Pwy sy’n llnau y tŷ?

Rho faneg wen ymlaen
sycha fys dros bob arwyneb
a phaid dangos dy ffieidd-dra
pan ddaw o nôl yn ddu.
Rho farc wrth fy enw
cofnoda’r ffasiwn stad
sydd ar y lle ma.
Be mae’r ddynas ma di bod yn neud 
trwy’r dydd?

Sgubo, hwfro, mopio
tacluso, cadw, twtio
mae’r adeilad yma’n gartref
i’w gadw’n ddiogel. Mae’n ddiogel
cael glendid, arwyneb hylendid
er mwyn gwarchod ein plant
ein teulu
ein enwau da.


Mae’r cwestiwn o bwy sy’n gyfrifol am llnau’r tŷ yn un na chai ei ofyn yn aml. Ond rydym yn gofyn heddiw i drigolion sawl cartref, dros ardaloedd ac amseroedd gwahanol. Dyma rhai o’u hatebion nhw, sydd wedi eu crynhoi a’i golygu er mwyn darllen yn haws ac i fod yn fwy cyson. Hoffwn ofyn i chithau ystyried y cwestiwn hwn, yn eich amser eich hun. Mae lle ar ddiwedd y tudalen i gofnodi eich atebion.

Mae Mr Parry o rif 6, sy’n byw mewn rhes o dai cyngor ym Mhenmaenmawr yn y ‘70au, yn sicr ei fod yn gwybod yr ateb, ac yn ei gynnig hyd yn oed cyn i’n gohebydd ni orffen gofyn. Y ddynas sy’n llnau’r tŷ. Tydi o erioed wedi llnau yn ei fywyd, ac yn sicr ddim yn bwriadu cychwyn rwan. Gan fod o allan yn gweithio ac yn ennill pres, er mwyn cadw’r teulu, a thalu’r biliau, cyfrifoldeb ei wraig ydi gwneud cartref iddyn nhw, a’i gadw’n lân. Mae’n adlewyrchu’n ddrwg arno os nad ydi hi’n llwyddo i wneud hyn.

Mae’r llwch sydd yn gorchuddio pob modfedd o’i gartref, y llwch mae ei wraig yn llnau oddi ar bopeth bob dydd, yn cael ei greu gan y peiriannau mae o’n ei defnyddio yn y chwarel. Ysgwyd ei ben ‘wnaeth Mr Parry pan sonwyd ein gohebydd ni am hyn.

Awn drosodd rwan i’r 2020au. Mae Ms Brown yn byw mewn tŷ wedi ei rentu yng Nghaernarfon, ac yn meddwl ddylsa pawb yn y cartref sydd yn medru pigo cwpan budur i fyny, helpu gyda’r llnau. Tydi hi ddim yn anodd mynd a’r gwpan i’r gegin a’i rhoi yn y peiriant golchi llestri, yn enwedig os ydi’r person yna ar y ffordd i’r gegin beth bynnag! Rhan fwyaf o’r amser, mae pawb yn ei thŷ hi yn cytuno efo hyn. Ond, pan mae’n dod at ddefnyddio cemegau cryf neu llnau’r ystafell molchi, mae’n well gan Ms Brown beidio gofyn i’w phlant neud hyny. Gan fod ddim ffenast yn yr ystafell a tydi’r ffan ddim yn gweithio yn effeithiol, ceir llwydni du ar y nenfwd a’r waliau, yn y silicon rownd y bath a chawod, ac weithiau ei arogl ar y tyweli a dillad sy’n cael eu gadael yn yr ystafell.

Pan ofynodd ein gohebydd pa mor aml mae hi’n llnau’r ystafell yma, mae hi’n deud fod o’n amhosib gorffen, gan nad ydi o byth yn hollol lân oherwydd y llwydni. Gofynnodd wedyn os ydi’r landlord yn bwriadu dod i ddifa’r llwydni ei hun. Atebodd hithau na’i chyfrifoldeb hi ydi hyny, yn ôl yr unigolyn yma sy’n berchen ar ei chartref hi. Mae hi eisiau symud, ond yn poeni fod y llwydni du yn mynd i fod yn rheswm iddo gadw’r blaendal, ac felly ni fysa’n bosib iddi dalu’r blaendal ar y tŷ nesa. Mae hi’n gaeth i’r eiddo yma.

Doedd ei landlord hi ddim ar gael, ond fe lwyddodd ein gohebydd siarad gyda rhywun arall sy’n berchen ar sawl tŷ, ac yn eu rhentu. Fe ofynwyd iddo pwy sy’n gyfrifol am gael gwared a’r llwydni yn y tai mae o’n berchen arnynt. Fel Mr Parry yn y ‘70au, roedd o’n brydlon gyda’i ateb, ac yn hyderus iawn mae’r bobl sy’n byw yn y tŷ sy’n hollol gyfrifol am eu hamgylchedd. Pan ofynwyd a ydi’r sefyllfa’r un peth mewn achos o lwydni du, rowliodd ei lygaid a deud ‘mond agor y ffenast a rhoi’r gwres ymlaen sydd isho!’. Mae’r landlord yma’n sicr fod bosib osgoi llwydni, a hefyd cael gwared ohono. Ydi’r llwyni, felly, yn dod i fewn ac allan drwy’r ffenast, ac yn mynd i ddenig o’r tŷ cyn bellad a’i fod o’n medru gweld ffenast ar agor?

Roedd distawrwydd angyfforddus rhyngddynt wedi hyny, a daeth y cyfweliad i ben.

Yn anffodus, tydi’n ymchwil ni ddim wedi llwyddo i ateb y cwestiwn heddiw, ac mi fydd yn rhaid dyfalbarhau, os rydym am ddarganfod yr atebion.
 

Paraseit

Organeb sydd yn cael maeth gan organeb arall, unai drwy fyw arno neu drwy fyw o’i fewn o, yw paraseit, parasit, neu arfilyn. Oherwydd ei fod yn defnyddio gymaint o enwau, does ddim ffordd pennodol o ddynodi pwy neu beth yn union sy’n medru cael eu hystyried yn barasit. Yn aml iawn mae’r paraseit yn dibynnu ar y gwesteiwr i wneud y gwaith caled o gasglu bwyd, darganfod lle diogel i aros, ac wrth gwrs aros yn fyw, er mwyn cadw’r paraseit ei hun yn ddiogel. Tydi’r gwesteiwr ddim fel arfer yn ymwybodol fod ganddynt paraseit, ond mae yna symptomau annweledig, er engrhaifft, poen yn y stumog, blinder, poenau yn y corff a chyhyrau, dioddef o ddiffyg maeth, trafferth cysgu, clensio dannedd yn y nos. Ydi’r symptomau yma’n swnio’n gyfarwydd? Os felly, efallai eich bod yn dioddef o dan baraseit.

Wrth gwrs, nid yw’r paraseit yn gweld ei hun fel dihiryn. Just angen byw ydw i, dyna fysa paraseit yn ei ddweud, wrth iddo dyllu’n ddyfnach i fewn i gorff ei westeiwr. Ond nid oes gan rai baraseitiau ddewis. Mae llyngyr yn llyngyr. Byw o fewn cyrff pobl ac anifeiliaid yw’r unig opsiwn sydd ganddynt. Be am y paraseitiau sydd gydag opsiynau eraill? Be am y landlords, a’r cyflogwyr, a’r system gyfalafol ei hun. Be am y bobl sy’n byw oddi ar y ddaear, y blaned yn westeiwr, ninnau’n arfilyddion. 
 

Casgliad

Y darnau man sy’n casglu
yn y bowlen bren,
arian, pres, copr, nicel
fflachlwch yn y ddysgl
wrth iddo deithio o law i law.
Y powdr man sy’n casglu
yn yr ysgyfaint
glo, llechi, ithfaen, llwydni
lludw yn suddo
i’r meinwe, i’r pibellau, i’r alfeoli.
Y geiriau, brawddegau, a pharagraffau
yn yr erthygl ffeithiol-greadigol,
ysgyfaint, ithfaen, chwarelwyr, 
silicosis, mwyn, tik tok,
pwy sy’n llnau y tŷ?
Mae yma gasgliad
ond dim casgliad.